|
|
||
![]() |
![]() |
|
|
Cefnogaeth i Fyfyrwyr Os ydych yn gobeithio astudio am Radd Sylfaen, Gradd gyntaf, Diploma mewn Addysg Uwch neu gwrs HND, gallech fod yn gymwys i gael Cefnogaeth i Fyfyrwyr (benthyciadau a help gyda ffïoedd). Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm neu incwm eich teulu. Gall myfyrwyr rhan-amser sydd ar fudd-daliadau neu incwm isel, neu sy'n colli eu gwaith tra maent yn astudio, wneud cais i'w ffïoedd gael eu talu'n llawn. Dylech wneud cais i'ch Awdurdod Addysg Lleol (AALl) am asesiad Cefnogaeth i Fyfyrwyr. Os nad ydych yn gymwys i gael Cefnogaeth i Fyfyrwyr, efallai y gellwch wneud cais am grant ddewisol. Gofynnwch i'ch AALl am fwy o fanylion a ffurflenni cais. Cofiwch - mae'n bwysig gwneud cais ddigon ymlaen llaw cyn dechrau cwrs. Efallai y bydd lwfansau ychwanegol ar gael i bobl gydag anableddau. |
||||
- 0800 100 900 - |