Cronfeydd Caledi
Mae'r gronfa galedi yn rhoi cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr sydd
angen hynny. Efallai y byddwch angen help ychwanegol oherwydd fod
y costau'n uwch na'r hyn roeddech wedi ei ddisgwyl (er enghraifft,
os ydych yn riant sengl) neu oherwydd eich bod yn gorfod wynebu trafferthion
ariannol annisgwyl yn ystod eich cwrs. Gellwch ddefnyddio arian o'r
gronfa galedi i helpu â chostau'n ymwneud â'r cwrs, megis
teithio neu ofalu am blant, costau byw a llyfrau. Nid oes raid i chi
dalu'r cymorth hwn yn ôl.
Bydd y coleg neu brifysgol yn penderfynu pa fyfyrwyr fydd yn derbyn
taliadau a faint fydd pob taliad (bydd yn dibynnu ar eich amgylchiadau).
Holwch yn eich coleg neu brifysgol am fwy o fanylion.