|
|
||
![]() |
![]() |
|
| |
Cymorth at Anableddau neu Anghenion Eraill Mae gan lawer o golegau gyd-drefnwyr cynnal dysgu neu gyd-drefnwyr anabledd. Mae'n syniad da siarad â chyd-drefnydd cyn gwneud cais am gwrs. Os ydych yn meddwl cychwyn ar gwrs, dyma rai o'r cwestiynau y gall fod angen ichi eu gofyn:
Lwfansau Myfyrwyr Anabl (LMA) Mae LMA yn helpu â chostau sy'n codi o ganlyniad i'ch anabledd. Efallai y gellwch gael help ar gyfer offer arbennig, cynorthwywyr an-feddygol, costau teithio a chostau eraill. Nid oes rhaid talu'r cymorth hwn yn ôl a gellwch wneud cais unrhyw bryd cyn neu yn ystod eich cwrs. Ffoniwch linell wybodaeth y DfEE ar 0800 7319133 am becyn LMA am ddim.
Cymorth Dyslecsia Holwch yr uned Cynnal Dysgu yn y coleg neu'r brifysgol a oes yno diwtor sydd wedi ei hyfforddi mewn cymorth dyslecsia. Gall rhywun yno roi cyngor ichi ynglín ag asesu yng nghyswllt dyslecsia a'ch cynorthwyo gyda medrau astudio ac wrth ichi baratoi ar gyfer arholiadau. SKILL SKILL yw'r Fiwrô Genedlaethol dros Fyfyrwyr sydd ag Anableddau. Yno, cynigir gwasanaeth gwybodaeth ac amrywiaeth o daflenni ac arweinlyfrau sy'n ymdrin â phob agwedd ar ddysg a gwaith. Maent yn cynnwys gwybodaeth am gyllido, ail-gydio mewn addysg, trefniadau arholiadau a chyfleoedd o ran dysgu agored a dysgu o bellter. Cysylltiadau Defnyddiol ACE (Canolfan Gynghori ar Addysg) Cymdeithas Prydain dros Ddyslecsia DfEE Ffeithlen yr Adran Addysg a Chyflogaeth ar lwfansau i fyfyrwyr
ag anabledd LEAD (Cysylltu Addysg ac Anabledd) MENCAP RNIB (Royal National Institute for the Blind), 224 Great Portland
Street, London, W1N 6AA. Llinell gymorth:0345 669 999 RNID (Y Gymdeithas Genedlaethol Frenhinol i'r Byddar) SCOPE i bobl â pharlys yr ymennydd, 6-10 Market Road, Llundain
N7 9PW. SKILL (Y Fiwrô Genedlaethol dros Fyfyrwyr sydd ag Anableddau): 0800 325050. Testun 0800 068 2422. E-bost: info@skill.org.uk Rhyngrwyd: www Prifysgol Cymru, Bangor, Uned Dyslecsia: 01248 382 203 Prifysgol Cymru, Bangor, Cynghorwr Myfyrwyr ar Anabledd
|
![]() |
||||