Mae gan lawer o golegau gyd-drefnwyr cynnal dysgu neu
gyd-drefnwyr anabledd. Mae'n syniad da siarad â chyd-drefnydd cyn gwneud
cais am gwrs.
Os ydych yn meddwl cychwyn ar gwrs, dyma rai o'r cwestiynau
y gall fod angen ichi eu gofyn:
- A oes cynghorwr anabledd?
- A allaf fynd i'r holl adeiladau y bydd angen imi eu defnyddio?
- A oes gwasanaeth gofal ar gael?
A yw'r holl ddulliau addysgu ac asesu yn briodol i'm hanghenion?
- A oes cyfarpar arbennig i'm cynorthwyo?
- A ellir gwneud trefniadau arbennig imi sefyll arholiadau?
- A oes gan y coleg brofiad o gefnogi myfyrwyr ag anableddau?
- A allaf gael cymorth i dalu am fy nghwrs?
- A fydd astudio yn effeithio ar fy mudd-daliadau?