![]() |
![]() |
|
![]() ![]() |
Gwybodaeth am Ddigwyddiadau Lansiad yn Eisteddfod yr Urdd- Mai’r 29ain, 2006 Yn Eisteddfod yr Urdd Rhuthun eleni, fe lansiodd y tim Becyn Mentora Cyfoedion Dwyieithog. Fe ddatblygwyd y pecyn yn wreiddiol gan The Mentoring and Befriending Foundation a chafwyd caniatâd i gyfieithu ac addasu’r rhaglen ar gyfer cyd-destun Cymreig. Arweinydd y lansiad oedd Meri Huws, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Bangor a Chadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Prif ysgogydd y cynllun hwn o fewn tim gogledd Cymru oedd Dr Dafydd Arthur Jones, ffrind a chydweithiwr a gollir yn fawr yn dilyn ei farwolaeth anhymig yn gynharach eleni. Fe lansiwyd y pecyn er cof amdano. Am fwy o fanylion am y pecyn, cysylltwch â Linda Evans, Rheolwr y Prosiect. Nosweithiau Graddio Mae sawl noson raddio fawreddog wedi cymryd lle ar hyd a lled Gogledd Cymru yn ddiweddar pan welwyd disgyblion blwyddyn 7 o sawl ysgol yn cael eu gwobrwyo am gymryd rhan mewn prosiect Mentora Gobeithion yn eu hysgol. Fel rhan o’r cynllun hwn, gwelwyd israddedigion o Brifysgol Cymru, Bangor ac Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru yn mentora plant o flwyddyn 7. Gwnaethpwyd hyn i feithrin gobeithion y plant am y dyfodol ac i dynnu eu sylw at fywyd mewn sefydliad Addysg Uwch. Pwrpas y nosweithiau hyn felly oedd llongyfarch a chydnabod myfyrwyr y dyfodol- dyma ddechrau’r daith i’r disgyblion er mwyn cyrraedd Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Bydd y cynllun yn parhau i’r disgyblion ifanc ym mlwyddyn wyth gyda gweithgareddau cyffrous eraill yn eu hysgolion. Yn ogystal â’r hysbysfwrdd hwn, mae gennym gyfleuster newyddion ‘Gwe-gofnod’ (weblog). Cliciwch yma i gael mynediad at y 'gwe-gofnod' |
- 0080 100 900 - |