CUNW- Community University North Wales
 
Project home Contacts News
hafan gymraeg
home










Ymestyn yn Uwch – Ymestyn yn Ehangach


Cefndir

Llwyddoddd Prifysgol Cymuned Gogledd Cymru i ddenu cyllid o CCAUC ar gyfer prosiect Ymestyn yn Uwch Ymestyn yn Ehangach er mwyn cynyddu cyfranogaeth ymhlith dysgwyr anhraddodiadol mewn Addysg Uwch.Amlinellir rhaglen o weithgareddau i gyrraedd targedau.

Diffinio’r Prosiect:

Canolbwyntia’r prosiect ar dair elfen wahanol ar hyd Gogledd Cymru:

  • rhyngweithio efo ysgolion
  • rhannu mynediad cymunedol
  • cadw myfyrwyr

Trosglwyddir bob elfen ar draws y rhanbarth drwy Swyddogion Cyswllt Ardal y bydd rhan o’u gorchwyl yn cynnwys cyfrifoldeb am ranbarthau neilltuol.
Gwynedd,Ynys Mon (Gogledd Orllewin),Dinbych,Conwy (Canolbarth),sir y Fflint a Wrecsam (Gogledd Ddwyrain).

Hyd y prosiect cynta fydd 12 mis gan weithio i daflen amser o weithgareddau y cytunwyd arni.

Nodau’r Prosiect

Prif nodau’r prosiect yw:

  • i archwilio a gweithredu dulliau newydd o ddysgu i grwpiau anghynwysiedig drwy ysgolion
  • i godi ymwybyddiaeth o Addysg Uwch a bod fel catalydd dros ychwanegiad personol,teuluol a chymunedol;i ddatblygu diwylliant o ddysgu i deuluoedd a chymunedau
  • i archwilio’r dichonoldeb o ddatblygu mynediad rhyng-sefydliadol i ddarpariaeth Addysg Uwch yn arbennig mewn ardaloedd gwledig
  • i gynyddu ymwybyddiaeth a medrusrwydd partneriaid Prifysgol Gymuned Gogledd Cymru
  • i drafod materion yn ymwneud a chadw myfyrwyr gan arwain at wella perfformiad ymhob sefydliad

Cwmpas y Prosiect

Canolbwyntia’r prosiect ar ddysgwyr sy’n dangos addewid i astudio ar lefel Addysg Uwch,ond sydd angen peth cymorth arnynt.Fe drosglwyddir y prosiect ar hyd ardal Prifysgol Gymuned Gogledd Cymru,gan ganolbwyntio mewn mannau lle mae:

  • cefnogaeth gre’ o’r sefydliadau a’r ysgolion mewn cymdogaeth
  • crynhoad o ddysgwyr mewn peryg o beidio a chael eu cynnwys (ee. Ardaloedd Cymuned Gyntaf)

Cynhwysai hefyd ymchwil i’r rhwystrau rhag dilyniant;cyflenwi adroddiadau ar ddilyniant a mynediad i Addysg Uwch yng Ngogledd Cymru;gweithgareddau gyda Dysgu a mentoriaid mewn ysgolion;gweithgareddau gyda rhieni o ddisgyblion ysgol (Blynyddoedd 6-9);gweithgareddau gyda’r darparwyr mewn sefydliadau Addysg Bellach ac Addysg Uwch.

Amlinelliad o gyflawniad proseict ac/neu ddeilliannau dymunol

  • Gwerthusiad o weithgareddau cyfredol gyda phartneriaid Coleg Gymuned Gogledd Cymru
  • Rhaglen o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth o Addysg Uwch gyda dysgwyr ym mlynyddoedd 7-8 neu 9 mewn ysgolion uwchradd(gan gynnwys mentoriaeth,ymweld a sefydliadau Addysg Uwch,adnabod modelau rolau)
  • Gweithgareddau gyda rhieni y dysgwyr addawol rheini ond sy’n annhebygol o astudio mewn Addysg Uwch - ym mlwyddyn 6 (ysgolion cynradd sy’n bwydo yr ysgolion uwchradd) a blwyddyn 7 (gan gynnwys darpariaeth, ‘Sut y dysgwn ni’)
  • Adnabod y ddarpariaeth mewn arweiniad sy’n bod eisoes ac anghenion datblygiad pellach
  • Ymchwil i ymdriniaeth pob sefydliad ac agwedd at gadw myfyrwyr ac i wneud awgrymiadau dros flaenoriaethu gweithredu
  • Datblygu a throsglwyddo gweithgareddau datblygu staff sefydliadau Prifysgol Gymuned Gogledd Cymru
  • Adnabod pecynnau cefnogi dysgu i ddysgwyr er mwyn hybu astudio
  • Adnabod yr adnoddau angenrheidiol i gynnal yr holl weithgareddau yng Ngogledd Cymru am flynyddoedd i ddod

Gwybodaeth Bellach

Am ragor o wybodaeth am Ymestyn yn Uwch - Ymestyn Ymhellach cysyllter a:

Linda Evans
Rheolwr Prosiect.
Ymestyn yn Ehangach,
Adran Dysgu Gydol Oes,
Prifysgol Cymru Bangor.
Uned 27 Ffordd Richard Davies,
Parc Busnes Llanelwy Llanelwy,
Sir Ddinbych
LL17 0LJ

Ffôn: 01745 536004 Ffacs: 01745 536010
E-bost ems401@bangor.ac.uk



- 0080 100 900 -