CUNW- Community University North Wales
blankspace
Prifysgol y Gymuned Gogledd Cymru
cunw logo part 1
cunw logo part 2  
englishhafan
amdanom ni
cymwysterau
colegau
cefnogaeth i fyfyrwyr
addnoddau dysgu
cysylltiadau
cysylltwch a ni
blankspace

Beth yw cymwysterau?

  • Cydnabyddiaeth swyddogol eich bod wedi cyrraedd lefel benodol o wybodaeth neu fedr.
  • Mae yna lawer o wahanol gymwysterau megis graddau, HNDs, HNCs, lefelau-A a TGAU. Cymwysterau galwedigaethol yw GNVQs a NVQs. Ceir hefyd gymwysterau arbenigol sy'n benodol i'r cwrs.

Beth yw credyd?

  • Dyfernir credyd am gwblhau rhan o gymhwyster, megis modiwl neu uned, yn llwyddiannus. Mewn addysg uwch, mae'r rhan fwyaf o fodiwlau'n werth 10 credyd.
  • Gellwch gasglu eich credydau nes bydd gennych gymhwyster llawn.
  • Mae nifer y credydau y byddwch eu hangen yn dibynnu ar lefel y cymhwyster yr ydych yn astudio i'w gael. Po uchaf fo'r cymhwyster, mwya'n y byd o gredydau y byddwch eu hangen. Mae angen 360 o gredydau i gael gradd lawn.
  • Mae credyd fel rheol yn adlewyrchu nifer yr oriau a dreuliwch yn astudio a pha mor dda y byddwch yn gwneud mewn asesiadau.
  • Yn gyffredinol, mewn sefydliadau Addysg Uwch (AU) rhoddir 1 credyd am waith sy'n cymryd hyd at 10 awr i'w wneud. Mewn coleg Addysg Bellach (AB) rhoddir 1 credyd am 30 awr o waith.

Pam mae credyd yn ddefnyddiol?

  • Mae credydau'n golygu bod cymwysterau'n cael eu rhannu'n ddarnau llai, haws eu trin. Mae hyn yn golygu y gellir astudio cyrsiau fesul tamaid - pan ellwch ei fforddio a phan mae gennych amser.
  • Hefyd mae'n golygu y gellwch drosglwyddo eich credydau o un coleg i un arall efallai heb orfod dechrau eich cwrs newydd o'r dechrau un.

Sut y gallaf ennill credydau?

  • Pan fyddwch yn cofrestru ar gwrs, eglurir lefel y cymhwyster a lefel credydau wrthych. Gofynnwch i'ch coleg am gyngor ynglyn â'r ffordd y mae eich credyd yn ffitio i system gredyd.
blankspace

- Angen cyngor ar sut i ddechrau arni? 0800 100 900 -