CUNW- Community University North Wales
blankspace
Prifysgol y Gymuned Gogledd Cymru
cunw logo part 1
cunw logo part 2  
englishhafan
amdanom ni
cymwysterau
colegau
cefnogaeth i fyfyrwyr
addnoddau dysgu
cysylltiadau
cysylltwch a ni
blankspace

Cyflwyniad i Gyfarwyddyd Addysgol

Am beth mae'r cwrs?

Mae'n ymwneud â datblygu medrau cyfarwyddo effeithiol a rhwydweithiau cefnogi ar gyfer dysgwyr.

Y broses gyfarwyddo
Swyddogaeth y gweithiwr cyfarwyddo
Datblygu rhwydweithiau cyfarwyddo
Addysg Oedolion

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae ar gyfer pobl y mae dysgwyr neu ddarpar-ddysgwyr yn gofyn am gyngor a chyfarwyddyd ganddynt weithiau. Gofynnir i lawer o bobl am wybodaeth yn ymwneud â dysgu, yn cynnwys llyfrgellwyr, gweithwyr ieuenctid a chymuned a thiwtoriaid derbyn mewn colegau.

Pa swydd bynnag rydych yn ei gwneud, bydd y cwrs hwn yn rhoi i chi'r wybodaeth a'r medrau y bydd arnoch eu hangen i roi'r cyngor a'r cyfarwyddyd gorau i ddysgwyr yn eich cymuned.

Pa fath o gwrs ydyw?

Mae'n gwrs addysg uwch rhan-amser hyblyg iawn, felly mae'n addas hyd yn oed os ydych yn gweithio'n llawn-amser. Yn wir, mae mor hyblyg fel y gellir ei addasu ar gyfer y math o waith rydych yn ei wneud.* Efallai y gallech gwblhau'r cwrs mewn un wythnos, ond fel rheol mae'n
para am gyfnod hwy - yn nodweddiadol un sesiwn 3 awr bob wythnos am 10
wythnos. Beth bynnag y penderfynwch ei wneud, byddwch yn cael eich asesu'n bennaf ar sail eich gwaith cwrs, a fydd yn cynnwys ymarferion ymarferol, gwaith unigol a gwaith grwp.

Mae'r cwrs yn ychwanegu at yr NVQ Lefel 3 mewn Cyfarwyddyd Gyrfaoedd (bydd yn rhoi mwy o wybodaeth a theori gefnogol i chi) a gallech ennill credydau ar Lefel 1 Addysg Uwch.

* Yn amodol ar niferoedd digonol

Eisiau gwybod mwy?

Ffoniwch Eryl Roberts
Adran Addysg Gydol Oes
Prifysgol Cymru Bangor
Stryd Deon
Bangor
Gwynedd LL57 1UT

Ffon: 01248 383896
Ffacs: 01248 382044
Ebost: e.j.roberts@bangor.ac.uk

MYNEDIAD AT ADNODDAU AR-LEIN

blankspace

- 0800 100 900 -