|
|
||
![]() |
![]() |
|
| |
Mae gan fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau a ddatblygwyd drwy'r Brifysgol Y Gymuned fynediad at amrediad eang o adnoddau dysgu - yn cynnwys mynediad at lyfrgelloedd a chanolfannau dysgu - yn eu coleg eu hunain ac ym Mhrifysgol Bangor neu NEWI yn Wrecsam. Mae cynllun benthyca llyfrau llyfrgell yn cael ei ddatblygu a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau'r Brifysgol Y Gymuned fenthyca llyfrau o lyfrgelloedd unrhyw un o'r colegau led led Gogledd Cymru. Mae nifer o ddeunyddiau dysgu ar-lein wedi cael eu datblygu i gefnogi cyrsiau a ddatblygwyd drwy'r Brifysgol Y Gymuned. Cliciwch ar y cyswllt isod i ddarllen y disgrifiadau cwrs a chael mynediad at y deunyddiau ar-lein: Am ragor o wybodaeth am gyrsiau a gynigir gan aelodau'r Brifysgol Gymuned ewch i'r lleoli cwrs. Os nad yw'r cwrs a geisiwch yno, neu os oes arnoch angen cyngor ac arweiniad ar faterion eraill ynglyn â'ch astudiaeth, defnyddiwch y ffurflen ar ein tudalen Cysylltwch â Ni. |
![]() |
||||
- Addysg uwch hynod hyblyg - |