CUNW- Community University North Wales
blankspace
Prifysgol y Gymuned Gogledd Cymru
cunw logo part 1
cunw logo part 2  
englishhafan
amdanom ni
cymwysterau
colegau
cefnogaeth i fyfyrwyr
addnoddau dysgu
cysylltiadau
cysylltwch a ni
blankspace

Cyflwyniad

Partneriaeth yw Prifysgol y Gymuned Gogledd Cymru rhwng deg sefydliad addysg bellach ac uwch sy'n ymroddedig i gynorthwyo pobl i wneud newidiadau yn eu bywydau drwy gael addysg well.

Y deg coleg yw:

  • Coleg Glannau Dyfrdwy
  • Coleg Harlech
  • Coleg Llandrillo Cymru
  • Coleg Llysfasi
  • Coleg Meirion Dwyfor
  • Coleg Menai
  • Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Coleg Prifysgol Cymru Bangor
  • Coleg Garddwriaeth Cymru
  • Coleg Iâl Wrecsam

indecs

Ein Hamcanion

Ym 1998, ymrwymodd y deg coleg i:

  • annog a chefnogi myfyrwyr i ddod i mewn a mynd drwy addysg bellach ac uwch gwneud addysg uwch yn fwy hygyrch i bobl 'waeth beth fo'u hamgylchiadau
  • mynd ag addysg yn nes at lle mae pobl yn byw ac yn gweithio
  • darparu gwell gwasanaeth i'r gymuned

indecs

Beth rydym yn ei wneud

Mae'r Brifysgol y Gymuned yn gweithio'n galed i ymestyn cyfranogaeth trwy:

  • gefnogi datblygiad rhaglenni sy'n berthnasol i bobl yng Ngogledd Cymru
  • gefnogi datblygiad cyfleoedd dysgu hyblyg fel y gall pobl gael eu haddysgu o'u cartrefi, o fewn eu cymunedau eu hunain neu o'r gweithle.
  • gefnogi datblygiad systemau rhwng colegau i gynorthwyo symud ymlaen o addysg bellach i addysg uwch.
  • hyrwyddo manteision dysgu a ffyrdd o gael mynediad at yr addysg honno.

indecs

Yr Hyn mae Hynny'n ei Olygu i Fyfywyr

Mae'n golygu y bydd mwy o gyrsiau rhan-amser ar gael i fyfyrwyr yng Ngogledd Cymru. Bydd y cyrsiau hyn yn wirioneddol hyblyg, fel y bydd mwy o fyfyrwyr yn cael mynediad at ddysgu ac astudio mewn dull sy'n gyfleus iddynt hwy.

Er enghraifft, pe byddech yn dymuno astudio ar gwrs ond yn methu astudio'n llawn amser, efallai y gallech astudio'n rhan-amser y tu allan i oriau gwaith neu hyd yn oed yn eich lle gwaith. Os ydych yn byw ymhell o'r Coleg neu angen aros gartref, efallai y bydd y cwrs, y mae arnoch ei eisiau, ar y Rhyngrwyd neu yn y dref agosaf i chi. Gellwch hyd yn oed astudio yn ôl eich cyflymder chi eich hun oherwydd gellir gwneud cyrsiau fesul tipyn.

indecs

Gwybodaeth Bellach

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau cysylltwch a’r timau cyngor,arweiniad a chofrestru yn y coleg sydd o ddiddordeb i chi.Medrwch ddod o hyd i fanylion y colegau yma: Colegau


Am ragor o wybodaeth am y prosiect Ymestyn yn Uwch Ymestyn Ymhellach cysylltwch a:

Helen Papworth
Rheolwr Prosiect, Ymestyn yn Uwch Ymestyn Ymhellach
Adran Dysgu Gydol Oes,Prifysgol Cymru, Bangor,
Uned 27 Ffordd Richard Davies, Parc Busnes Llanelwy,Llanelwy,
Sir Ddinbych LL17 0LJ

Ffon: 01745 536000
Ffacs: 01745 536010

E-bost h.s.papworth@bangor.ac.uk

indecs

blankspace

- 10 coleg, 1 nod - gwell bargen i fyfyrwyr -